Pine marten reintroduction, survey and monitoring in Gwynedd
Ailgyflwyno, arolygu a monitro bele'r coed yng Ngwynedd
The Pine Marten. Karen Bullock https://flic.kr/p/qFn6qP
Ailgyflwyno, arolygu a monitro bele'r coed yng Ngwynedd
The Pine Marten. Karen Bullock https://flic.kr/p/qFn6qP
In 1998, there were only 40 red squirrels remaining on the island of Anglesey. Today, thanks to the successful eradication of grey squirrels there are around 800 red squirrels and the population has expanded across the Menai Straits into northern Gwynedd. Bangor is the only City in Wales where this rare native woodland species present.
Yn 1998, dim ond 40 o wiwerod coch oedd ar ôl ar Ynys Môn. Heddiw, ar ôl cael gwared â gwiwerod llwyd yn llwyddiannus, mae yna tua 800 o wiwerod coch yno ac mae’r boblogaeth wedi lledaenu ar draws y Fenai i ogledd Gwynedd. Bangor yw'r unig ddinas yng Nghymru lle mae'r rhywogaeth coetir brodorol prin hwn yn bresennol.
In March 2018 we found evidence of pine marten in Arfon District, Gwynedd. Our volunteers have been monitoring this population using wildlife cameras across the project area including in woodland in the Ogwen valley. A Bangor University MSc student investigated the response of local red squirrels to the presence of this arboreal predator and found that red squirrels actually increased activity at feeders assocaited with pine marten activity.
Ym mis Mawrth 2018 gwelsom dystiolaeth o’r bele yn Rhanbarth Arfon, Gwynedd. Mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn monitro'r boblogaeth hon gan ddefnyddio camerâu bywyd gwyllt ar draws ardal y prosiect gan gynnwys coetir yn Nyffryn Ogwen. Ymchwiliodd myfyriwr MSc o Brifysgol Bangor i ymateb y gwiwerod coch lleol i bresenoldeb yr ysglyfaethwr coed hwn. Canfu fod y wiwer goch yn bwydo’n amlach wrth y pethau dal bwyd oedd yn cael eu cysylltu â gweithgaredd bele'r coed.
We have established a growing network of pine marten nest boxes which allow us to collect data on distribution and, by analysing scat, the diet of this small predator. Working with the Welsh Mountain Zoo, Wildwood Trust, New Forest Wildlife Park and the University of Newcastle we now have a project to release more animals into the landscape. Working with APHA labs we have helped develop new non-invasive techniques to assess viral infections amongst captive and wild pine martens.
Rydym wedi sefydlu rhwydwaith sy’n datblygu o flychau nythu bele’r coed sy'n caniatáu i ni gasglu data ar ddosbarthiad a, drwy ddadansoddi’r baw, diet yr ysglyfaethwr bach hwn. Gan gydweithio gyda Sw Mynydd Cymru, Ymddiriedolaeth Wildwood, Parc Bywyd Gwyllt y Fforest Newydd a Phrifysgol Newcastle, mae gennym bellach brosiect i ryddhau mwy o anifeiliaid i'r gwyllt. Gan weithio gyda labordai’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), rydym wedi helpu i ddatblygu technegau anymwthiol newydd i asesu heintiau firaol ymysg belaod caeth a belaod gwyllt.
We are dedicated to conserving rare woodland mammals.
Your contribution today helps us make a real difference.
Rydym wedi ymrwymo i warchod mamaliaid coetir prin. Mae eich cyfraniad heddiw yn ein helpu i wneud gwahaniaeth go iawn
First video recording of a foraging pine marten in Arfon district, northern Gwynedd.
Y fideo cyntaf o bele’r coed yn chwilota am fwyd yn ardal Arfon
Copyright © 2022 The Gwynedd Pine Marten Project - All Rights Reserved.
EU LIFE14 NAT/UK/000467
Powered by GoDaddy